NEWYDDION
DIWRNOD LLWYDDIANNUS YN Y BRANGWYN
Bu’n ddiwrnod llwyddiannus i’r band ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe ddydd Sadwrn Mawrth 18fed. Dan arweinyddiaeth ein Cyfarwyddwr Cerdd Alex McGee llwyddwyd i gipio’r 3edd wobr yn ADRAN 3 mewn cystadleuaeth safonol lle roedd disgwyl i bob un o’r bandiau chwarae’r darn prawf Chorale and Toccata, darn gan y cyfansoddwr Stephen Bulla.
Roedd y canlyniadau fel â ganlyn:
1. Band Cross Keys (Sion Rhys Jones)
2. Band Arian y Drenewydd (Steve Edwards)
3. SEINDORF ARIAN CRWBIN (Alex McGee)
4. Band Dinas Wrecsam (Ian Johnson)
5. Band Awyrlu Sain Tathan (Alan Bourne)
6. Band Gwauncaegurwen (Alex Parker)
7. Band Ynyshir (Dean Evans)
8. Band Llansawel (Jeff Pearce)
Rhaid llongyfarch band Cross Keys ar ei buddugoliaeth. Roeddem ni fel band yn hynod o falch o’r canlyniad ac am yr adborth a’r sylwadau calonogol wrth y beirniaid am ein perfformiad. Roedd y gwaith caled dros y misoedd diwethaf yn yr ymarferion yn amlwg wedi talu ar ei ganfed ac yn ganmoliaeth i ymroddiad yr holl aelodau. Wrth fynd i’r gystadleuaeth roeddem ar frîg tabl Adran 3 – rhaid aros i glywed wrth y Cyngor Rhanbarthol i weld a fyddwn yn cael dyrchafiad.
CYNGERDD NADOLIG
Ar nos Wener Rhagfyr 16ed, cynhaliwyd ein CYNGERDD NADOLIG yn Neuadd Goffa Pontyberem ac mae’n dêg dweud yn dilyn adborth hynod ganmoladwy a chalonogol i’r noson fod yn un llwyddiannus iawn. Yn anffodus am rhesymau tu allan i’n rheolaeth bu’n rhaid i Gôr Iau Ysgol Maes y Gwendraeth a disgyblion Ysgol Gymunedol Bancffosfelen dynnu allan ar fyr rybudd. Serch hynny fe wnaeth perfformiad plant Ysgol y Fro, Llangyndeyrn godi calon y gynulleidfa niferus â ddaeth i gefnogi. I gyfeiliant y pennaeth Mr Rhys Thomas fe gawsom ddetholiad hyfryd ganddynt o garolau a chaneuon Nadolig. Roedd y gynulleidfa wedi gwirioni ar rhain ac fe ellid dweud taw nhw oedd sêr y noson. Rhaid canmol y gefnogaeth ddaeth wrth deuluoedd a ffrindiau’r plant.
Cyflwynodd BAND CRWBIN dan arweinyddiaeth ein Cyfarwddwr Cerdd Mr Alex McGee amrywiaeth o gerddoriaeth addas ac fe gafwyd clod a chymeradwyaeth haeddiannol i’n rhaglen. Roedd y BAND IAU yn rhan o’r arlwy hefyd - dan arweinyddiaeth Mr Carl Bryant fe wnaethon nhw chwarae eitemau pwrpasol a chyfeilio rhai carolau traddodiadol i’r gynulleidfa gael canu – roedd naws hyfryd iawn i’r canu a pherfformiad y Band Iau, a’r plant wrth eu bodd yn cael perfformio’n gyhoeddus.
Yn absenoldeb yr ysgolion ac ar fyr rhybudd buom yn ffodus o gael gwasanaeth cerddorion ifanc i gynnal yr adloniant. Cyflwynodd Alys Lavery, disgybl Bl.9 o Ysgol Maes y Gwendraeth ddau ddarn clasurol a heriol ar y ffliwt gyda Mrs Jacquie Scaife ei hathrawes gerdd yn cyfeilio iddi. Pleser oedd gallu tystio i dalent mor ifanc. Triawd llinynnol ddaeth i’r adwy ar y funud olaf oedd Mared, Carwyn a Tanwen Lloyd o deulu Mansant. Cafwyd datganiad hyfryd ganddynt hwythau hefyd o ddwy garol draddodiadol – datganiadau arall o safon. Roeddem yn hynod ddiolchgar gallu elwa o dalent yr ieuenctid yma heb fawr o rhybudd.
Dymuna swyddogion a holl aelodau’r band ddiolch i bawb am y gefnogaeth a’r geiriau o ganmoliaeth i’r perfformiadau, ac i’r gweithwyr fu wrthi’n sicrhau bod pethau’n rhedeg yn llyfn. Rydym yn ddyledus hefyd i staff Neuadd Pontyberem am bob cymorth.
CAROLAU NADOLIG
Cyfnod y Nadolig yw’r amser prysura’ i’r band gan bod galw mawr am ein gwasanaeth mewn amryw ddigwyddiadau Nadoligaidd o fewn y gymuned. Ar ben hyn rydym yn parhau â’r traddodiad o chwarae carolau o amgylch y pentrefi cyfagos – Bancffosfelen, Crwbin, Llangyndeyrn a Phontyberem - dyma’n prif ffynhonell ariannol wrth gwrs sydd mor bwysig i sicrhau bod Band Crwbin yn gallu parhau a goroesi. Rydym am ddiolch i bawb am y gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn eleni eto.
PENCAMPWRIAETHAU CENEDLAETHOL BANDIAU PRÊS PRYDAIN
Bu’r band yn cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau ddydd Sadwrn Medi 17ed yng Nghanolfan y Centaur, Cwrs Rasio Ceffylau Cheltenham. Lleoliad arbennig a phrofiad i’w gofio – nid y canlyniad gorau mewn gwirionedd ond wrth adael y llwyfan roeddem yn fodlon iawn â’n perfformiad – cael ein gosod yn safle isel 16eg gan y beirniaid ddim yr hyn roeddem wedi rhagweld – dyna natur cystadlu – wedi’r cyfan roeddem yn brwydro yn erbyn bandiau gorau Adran 3 dros Brydain, a phob band wrth gwrs yn enillwyr yn eu gwahanol rhanbarthau. Rhaid llongyfarch Band Cwmtawe ar ddod i’r 7fed safle – band arall oedd yn cynrychioli Cymru.
Er y siom, rhaid symud ymlaen – bu’r penwythnos yn gyfle i gymdeithasu a mwynhau’r gwmnïaeth. Yn wir mae wedi ail gynnau’r fflam i fwrw ati o ddifri ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru y flwyddyn nesaf. Mae’r safonau’n uchel ym myd y bandiau prês ac yn parhau i godi – yr unig fand o Gymru i dderbyn gwobr dros y penwythnos oedd Seindorf Biwmares gan gipio’r 3edd wobr yn Adran 2.
LLWYDDIANT YM MHENCAMPWRIAETH RHANBARTHOL CYMRU 2022 YN NEUADD Y BRANGWYN, ABERTAWE
Llongyfarchiadau i arweinydd ac aelodau'r band ar ei llwyddiant ym Mhencampwriaeth Rhanbarthol Cymru â gynhaliwyd yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe ddydd Sadwrn, Mawrth 19ed. Dyma'r gystadleuaeth gynta wedi'r pandemic ac roedd yn braf gweld y band nôl ar y llwyfan cystadlu unwaith eto. Dan arweinad medrus Alex McGee ar ei ymddangosiad cyntaf fel Cyfarwyddwr Cerdd llwyddwyd i gipio'r 2ail wobr yn Adran 3. Mae'n glôd i ymroddiad a gwaith caled yr holl aelodau.
Y darn prawf oedd FACETS OF GLASS gan Gordon Langford
Canlyniadau
1. Band Cwmtawe
2. SEINDORF ARIAN CRWBIN Arweinydd: Alex McGee
3. Band Awyrlu Sain Tathan
4. Band Llansawel
5. Band Gwauncaegurwen
6. Band Y Drenewydd
7. Band Ynyshir
Bydd BAND CWMTAWE a SEINDORF ARIAN CRWBIN yn awr yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Band Prês Prydain ym mis Medi yn Cheltenham. Cyfnod prysur a chyffrous felly i'r band a’r ail dro yn unig i’r band gael gwahoddiad i’r Pencampwriaethau Prydeinig. Y tro diwethaf oedd nôl yn 2010 a hynny yn Adran 4 – ydyn rydym wedi symud ymlaen!
LLWYDDIANT YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 2022
Llwyddwyd i ddod yn drydydd yn Adran 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron ar Sadwrn cynta’r brifwyl. Nid y canlyniad oeddem wedi ei ddisgwyl wedi perfformiad graenus a safonol o rhaglen ddigon heriol, ond dyna yw natur cystadlu. Rhaid cofio taw chwarae rhaglen o adloniant hunan-ddewisiad oedd y gofynion ac felly rhaid derbyn dyfarniad a chwaeth y beirniad John Glyn Jones. Têg yw nodi i ni dderbyn beirniadaeth hynod o galonogol. Braf oedd gweld nifer o’r ardal yn cefnogi yn y pafiliwn a’r adborth yn gyffredinol yn un canmoladwy. Deallwn hefyd bod digon o gefnogaeth trwy gyfrwng y teledu a darllediad S4C. Llongyfarchiadau i Fand Arian Cross Keys ar ei llwyddiant nid yn unig yn ennill Adran 3 ond Adran 4 hefyd – Sadwrn llwyddiannus iawn iddynt.
Y canlyniad llawn:
1. Band Arian Cross Keys
2. Band Awyrlu sain tathan
3. Seindorf Arian Crwbin – Arweinydd Alex McGee
4. Gwaucaegurwen
5. Band Arian Llansawel
Mae Alex McGee ein Cyfarwyddwr Cerdd yn gweithio ar liwt ei hun fel cyfansoddwr ac fe chwaraewyd rhai o’i gyfansoddiadau y nein rhaglen huna-ddewisiad. Dyma’r rhaglen.. Summon the Heroes, John Williams trefn Philip Sparke Ave Verum Corpus, Mozart trefn Alex Mc Gee Y Barcud Coch Alex McGee Starlight Alan Fernie