CROESO...


Mae SEINDORF ARIAN CRWBIN yn fand prês cymunedol sy’n chwarae yn ADRAN TRI yn Rhanbarth Cymru. Rydym wedi ein lleoli ym mhentref Crwbin sydd rhyw 7 milltir o dre’ Caerfyrddin ac 11 milltir o Lanelli yng Ngorllewin Cymru.

Rydym yn griw hapus, cyfeillgar, brwdfrydig ac ymroddgar sy’n barod bob amser i wahodd a chroesawu’n gynnes unrhyw chwaraewyr prês fyddai â diddordeb mewn ymuno â’r band.Ffurfiwyd y band yn wreiddiol yn 1891 cyn ail-ffurfio yn 2000 – ers hynny mae’r band wedi mynd o nerth i nerth gan ddringo o Adran 4 i Adran 2.

Er i ni ddisgyn yn ddiweddar i Adran 3 yn dilyn canlyniadau anghyson mewn cystadlaethau rhanbarthol fe lwyddwyd ym mis Mawrth i ddod i’r 2il safle yn nghystadlaeuaeth Rhanbarthol Cymru 2022. Yn sgîl hyn byddwn yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Bandiau Prês Prydain yn Cheltenham ym mis Medi.





Mae gennym hanes helaeth o gystadlu yn flynyddol nid yn unig yng Nghystadleuaeth Rhanbarthol Cymru ond hefyd mewn cystadlaethau lleol a drefnir gan Gymdeithas Bandiau Prês Gorllewin Cymru a Chymdeithas Bandiau Prês De Ddwyrain Cymru. Ymfalchïwn yn ein llwyddiannau yn y cystadlaethau lleol – daethom yn 2il ar ddwy achlysur yng Nghyngrair Cymru yn 2017 a 2018 yn yr 2il Adran. Mae cystadlu’n rheolaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn rhan bwysig o’n rhaglen flynyddol – llwyddwyd i ddod yn bencampwyr Adran 2 yn 2017 a 2019. Yn 2022 yn Nhregaron rhaid oedd bodloni ar y 3ydd safle yn Adran 3.


Rydym yn perfformio mewn cyngherddau, carnifals, digwyddiadau elusennol, parêd neu orymdeithiau ac amryw ddigwyddiadau cymunedol. Ein CYFARWYDDWR CERDD yw Alex McGee – mae ymarferion ar nos Fawrth rhwng 7-9 yh ac hefyd ar y Sul rhwng 4-6 yh. Rydym berchen ar ystafell ymarfer bwrpasol ein hunain yn y pentre’. Mae’r BAND IAU yn darparu hyfforddiant a digon o hwyl i ddechreuwyr ac yn ymarfer ar nos Fawrth rhwng 6 – 6:50 yh.