HANES
Ffurfiwyd y band gwreiddiol nôl yn 1891 ac roedd cyswllt agos gyda’r diwydiant glo yng Nghwm Gwendraeth. Mae cefnogaeth y gymuned wedi bod yn allweddol i ffyniant y band ac fel pob cymdeithas gwelwyd cyfnodau o lanw a thrai wrth i’r aelodaeth newid.

Aeth y band o nerth i nerth ac yn 2010 cafwyd llwyddiant ym Mhencampwriaeth Rhanbarthol Cymru wrth i’r band ddod yn fuddugol yn Adran 4. Yn ogystal, Band Crwbin oedd Pencampwyr Gorllewin Cymru yn Adran 3. Ennill Adran 4 yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala wedyn. Cafwyd dyrchafiad i Adran 3 ac wedyn maes o law i Adran 2 – dan amrywiol Gyfarwyddwyr Cerdd ers hynny mae’r band wedi symud ymlaen a parhau i ddatblygu a ffynnu.